Mae staff, disgyblion, athrawon a rhieni i gyd yn cyfrannu at gynyddu teithio llesol mewn ysgolion, p'un a yw hynny'n cerdded, beicio neu sgipio. Rydyn ni'n gwybod nad yw hi bob amser yn hawdd, felly fel rhan o'n Rhaglen Teithiau Iach, rydyn ni'n darparu achrediad fel y gallwch chi ddathlu'ch gwaith caled.
Gwobr Ysgol Teithio Llesol
Mae'r Wobr Ysgol Teithio Llesol yn tywys ysgolion trwy'r camau allweddol ar gyfer cynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio鈥檔 actif i'r ysgol.听Cofrestrwch a mewngofnodwch i'r Wobr Ysgol Teithio Llesol听听
Mae'n galluogi ysgolion i recordio cynnydd trwy dair lefel - efydd, arian ac aur - wrth ddod yn fannau arfer gorau.
Mae'r wobr yn cefnogi ysgolion i gasglu tystiolaeth tuag at adrannau trafnidiaeth, iechyd a lles Gwobrau Ysgolion Eco ac Ysgolion Iach.
听听
Beth yw Ysgol Teithio Llesol?
Mae gan Ysgolion Teithio Llesol yr uchelgais a'r weledigaeth i weld fwy o deithio llesol i'w hysgol ac yn 么l.
Maent yn cydnabod y buddion a ddaw yn sgil lefelau uwch o deithio llesol i'r disgyblion, eu teuluoedd a chymuned ehangach yr ysgol:听
- llai o dagfeydd traffig听
- gwell ansawdd aer听
- plant mwy annibynnol a gwydn (sain siwr am y gair yma ar gyfer resilient?)听
- strydoedd mwy diogel听
- lefelau uwch o weithgaredd corfforol听
- plant mwy effro yn barod i ddysgu a chyflawni.听
Gan gymryd camau positif i annog a chefnogi disgyblion a'u teuluoedd i deithio'n weithredol, mae Ysgolion Teithio Llesol yn ysbrydoliaeth yn y gymuned, gan ddangos sut y gall teithiau trwy鈥檙 gymdogaeth bob dydd fod yn egn茂ol ac yn iach.听
Mae'r Wobr Ysgol Teithio Llesol yn tywys ysgolion trwy'r camau allweddol ar gyfer cynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio’n actif i'r ysgol.
Llwyfan ar-lein
Bydd platfform Gwobr Ysgol Teithio Gweithredol yn eich tywys trwy'r camau allweddol sy'n ofynnol i gynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio i'r ysgol yn weithredol.
Gall ysgolion olrhain cynnydd a chael gafael ar gyfoeth o adnoddau ategol er mwyn ennill gwobrau efydd, arian ac aur.
听听
Efydd
听i ysgol sydd wedi gweithio i gyflwyno rhai newidiadau trefniadol, diwylliannol ac ymddygiadol sy鈥檔 helpu cymuned yr ysgol i deithio mewn ffyrdd sy鈥檔 fwy llesol a chynaliadwy.
听听
Arian
I ysgol sy鈥檔 parhau i ddangos ei hymrwymiad i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy, ond gyda llawer o鈥檙 egni a鈥檙 adnoddau鈥檔 dod o oddi mewn i鈥檙 ysgol a鈥檌 chymuned.
听听
Aur
I ysgol sydd wedi dangos ymrwymiad parhaus i hybu teithio llesol a chynaliadwy dros sawl blwyddyn sydd wedi arwain at newidiadau trefniadol, diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol a hirhoedlog.
听听
Disodli y Nod Ysgol
Mae'r Wobr Ysgol Teithio Llesol yn disodli'r Nod Ysgol.
Bydd yr holl gynnydd yn cael ei drosglwyddo i blatfform Gwobr Ysgol Teithio Llesol.
Mewngofnodwch i'r platfform Gwobr Ysgol Teithio Llesol newydd sbon听.
E-bostiwch ni i gofrestru'ch ysgol ar gyfer y Wobr Ysgol Teithio Llesol.
Bydd angen i ni wybod eich enw, teitl swydd, ysgol, cyfeiriad e-bost cyswllt, ac awdurdod lleol听schoolswales@sustrans.org.uk.